Yn y 24 awr dywethaf…
Thursday, March 25th 2010
Hotspot at exhibition raises money for a good cause
Telemat provided the wifi internet access at Expowest in Carmarthen this year.
Donations for...read more
Wednesday, June 18th 2008
Bythynnod o Ansawdd & Chefnogaeth o Ansawdd
Mae Bythynnod...read more
Gall Telemat ymffrostio mewn mwy nag ugain o wasanaethau TG a gynhwysir o dan bedwar clwstwr cyffredinol, fel hyn:
Y cynnyrch a’r gwasanaeth yma yw meini adeiladu unrhyw isadeiladedd TG,- cyflenwi offer, gweinyddion wedi eu rhwydweithio, diogelwch a hyd yn oed cyswllt bandeang cyflym o’r radd flaenaf.
Er mwyn cynnal y TG, mae gennym ystod eang o gynnyrch Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar safle ac o bell sydd yn cael eu addasu ar gyfer pob cwsmer.
Os mai presenoldeb electroneg sydd angen ar eich cwmni, mae gennym ystod o wasanaethau gwe, o wefan gwybodaeth sylfaenol hyd at siop ar-lein hollol gyfunol. Heb anghofio pwysigrwydd cael eich gweld ar y we, mae gennym ystod o wasanaethau gwefan organig ac an-organig, megis ymgyrch talu fesul clic a gwasanaethau gwneud y gorau o’ch peiriant chwilio, er mwyn sicrhau eich bod yn ymddangos yn uchel ar y rhestr wedi unrhyw chwiliad.
Dyma’r elfen olaf a gynigiwn er mwyn atgyfnerthu eich buddsoddiad. Yn ein portffolio hyfforddiant gallwn ddarparu staff gyda’r cymhwyster cydnabyddedig a phoblogaidd, sef Trwydded Yrru Gyfrifiadurol Ewropeaidd(E.C.D.L.), i gynorthwyo i wneud y gorau o’r pwer cyfrifiadurol sydd ganddynt. Os nad yw arholiadau E.C.D.L. at eich dant, rydym hefyd yn darparu ystod o ddiwrnodau hyfforddi pwrpasol yn cwmpasu pob math o bynciau megis cynnal gwefan hyd at Microsoft Word.
O ganlyniad i’n llwyddiant wrth ddarparu’r portffolio llawn yma o wasanaethau rydym wedi datblygu sail gadarn o gleientiaid teyrngar.
Antur Teifi Business Park, Aberarad, Newcastle Emlyn, Carmarthenshire, SA38 9DB.
Ymholiadau Cyffredinol: 01239 712345 - Gwerthiant a Gofal Cwsmer: 01239 712344
Email Enquiries: enquiries@telemat.co.uk - Technical Helpdesk: helpdesk@telemat.co.uk
![]() |
![]() |
![]() |
|
| ISO 9001:2000 |